Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Ffair Wledig gyntaf yma a atynwyd dros 4500 o fobl yma i Ganolfan Cywain, Y Bala mis Awst 2010 mi benderfynwyd fel pwyllgor o gyfarwyddwyr ei bod hi'n amser bwrw iddi i drefnu dilyniant i'r Ffair. Y nod eleni yw cynnal Ffair Wledig Gogledd Cymru ar Stad Rhiwlas Y Bala er mwyn adeiladu ar lwyddiant y Ffair yn 2011 ac i fedru gwasanethu safle digon eang i stondinwyr amrywiol ac i alluogi ymwelwyr gael blas o wir agwedd bywyd gwledig. Cynnigir diwrnod hwylus i'r holl deulu gan gynnwys adloniant a gweithgareddau.Y gobaith yw y bydd o ddiddordeb i bobol lleol a thwristiaid fel eu gilydd. Oherwydd safle canolog Y Bala mi rydem fel trefnwyr yn credu y byddem ni'n tynnu'r tyrfaoedd o bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ardaloedd y ffin.
Mi fydd yna bob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal gan gynnwys saethu colomennod clai, arddangosfeydd cwn, adar ysglyfaethus, sioe gwn ac yn y blaen. Mi fydd digwyddiadau cyson yn cael eu cynnal yn y prif gylch hefyd a llawer o ddigwyddiadau ymylol i blant. Yn ogystal rydym yn credu yn gryf mewn hybu cynnyrch Cymreig a mi fydd Neuaddau Bwyd yma yn ogystal a Neuaddau Crefft a stondinau gyda digon o amrywiaeth fydd yn sicr at ddant pawb o'r teulu.